Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Hydref 2017
Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B - Uwch-fwyafrifoedd ar gyfer Biliau'r Cynulliad
Diben
1. Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae'r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Cynulliad, gan gynnwys unrhyw gynigion i ail-wneud neu ddiwygio'r Rheolau Sefydlog.
2. Mae'r adroddiad yn argymell diwygiadau i Reolau Sefydlog 26, 26A a 26B - ar gyfer Biliau Cyhoeddus, Preifat a Hybrid - i ddarparu ar gyfer gofyniad newydd am bleidlais uwch-fwyafrif o blaid Biliau'r Cynulliad sy'n ymwneud â phwnc gwarchodedig (adran 111A o Ddeddf Llywodraeth Cymru), ac ar gyfer craffu ar Filiau gan y Goruchaf Lys mewn perthynas â phynciau gwarchodedig (adran 111B o Ddeddf Llywodraeth Cymru). Mae'r newidiadau y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Busnes i'w gweld yn Atodiad A, ac mae'r cynigion ar gyfer Rheolau Sefydlog newydd i'w gweld yn Atodiad B.
Y cefndir
3. Erbyn hyn, mae adran 111A (3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru (a fewnosodwyd gan adran 9 o Ddeddf Cymru 2017), yn ei gwneud yn ofynnol i'r Llywydd wneud datganiad yn nodi a oes unrhyw un o ddarpariaethau Bil Cynulliad yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, cyn y gellir pleidleisio ar y Bil yng Nghyfnod 4. Pynciau gwarchodedig yw rhai a fyddai'n addasu, neu'n rhoi pŵer i addasu, materion penodol a restrir yn y Bil – mae'r rhain yn cynnwys enw'r Cynulliad, y bobl sydd â'r hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad, a threfniadau etholiadol eraill y mae Deddf Cymru 2017 yn rhoi pwerau i'r Cynulliad drostynt, gan gynnwys maint y Cynulliad.
4. Os bydd y Llywydd yn penderfynu bod unrhyw ddarpariaeth mewn Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, dywed adran 111A(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru na chaniateir pasio'r Bil, oni bai bod nifer Aelodau'r Cynulliad sy'n pleidleisio o'i blaid yn y Cyfnod terfynol o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm y seddau yn y Cynulliad (hynny yw 40 neu fwy ar hyn o bryd).
5. Mae adran 9 o'r Ddeddf wedi bod mewn grym ers 31 Mawrth 2017 i'r graddau y mae'n ymwneud â phŵer y Cynulliad i newid ei enw, a disgwylir i'r materion eraill ddod o fewn cymhwysedd ar y Prif Ddiwrnod Penodedig ar 1 Ebrill 2018. Mae'r gofyniad am ddatganiad gan y Llywydd ar bynciau gwarchodedig, a phleidlais uwch-fwyafrif yn achos Bil â darpariaethau sy'n ymwneud â phwnc gwarchodedig, yn gymwys i bob Bil Cynulliad erbyn hyn.
6. Cyflwynwyd adran 111B newydd hefyd i Ddeddf Llywodraeth Cymru. Mae hon yn darparu ar gyfer cyfeirio Bil Cynulliad at y Goruchaf Lys i benderfynu a oes unrhyw ddarpariaeth yn y Bil hwnnw sy'n ymwneud â phwnc gwarchodedig. Gellir cyfeirio Biliau a basiwyd, neu rai a wrthodwyd. Ar hyn o bryd, nid yw'r Rheolau Sefydlog ond yn darparu ar gyfer ailystyried Bil ar ôl ei gyfeirio at y Goruchaf Lys ar sail cymhwysedd deddfwriaethol, ac nid mewn perthynas â phynciau gwarchodedig.
7. Trafododd y Pwyllgor Busnes, ar 27 Mehefin 2017, yr effaith y byddai'r gofynion newydd yn ymwneud â phleidlais uwch-fwyafrif o blaid Biliau'r Cynulliad yn ei chael ar Reolau Sefydlog y Cynulliad. Ar ôl ymgynghori â'r grwpiau, ystyriwyd y mater eto ar 11 Gorffennaf 2017, pan gytunodd Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar newidiadau i Reol Sefydlog 26 i ddarparu ar gyfer y gofynion statudol newydd. Nodwyd hefyd yn y cyfarfod hwnnw y byddai'r newidiadau yn cael eu gwneud i weithdrefnau ar gyfer Biliau Preifat (Rheol Sefydlog 26A) a Biliau Hybrid (Rheol Sefydlog 26B) hefyd, er bod y mathau hyn o Filiau yn annhebygol iawn o gynnwys pynciau gwarchodedig. Ar 10 Hydref 2017, cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddiwygiadau i'r Rheolau Sefydlog, sef y sail i'r cynigion a nodir yn yr adroddiad hwn.
Cynigion i newid Rheolau Sefydlog
8. Nodir isod y cynigion ar gyfer newid, gan gyfeirio at ddiwygiadau i'r weithdrefn ar gyfer Biliau Cyhoeddus yn Rheol Sefydlog 26. Cynigir hefyd gwneud yr un newidiadau i'r rhannau perthnasol o Reol Sefydlog 26A (Biliau Preifat) a Rheol Sefydlog 26B (Biliau Hybrid), fel y'u nodir yn yr atodiadau i'r adroddiad hwn.
Datganiad gan y Llywydd
9. Rhaid i'r Llywydd benderfynu a yw Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig ai peidio ar ôl y tro olaf pan ellir diwygio Bil ond cyn y penderfyniad i'w basio neu ei wrthod[1]: mewn geiriau eraill rhwng Cyfnod 3/y Cyfnod Adrodd a Chyfnod 4. Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) oedd y Bil cyntaf i'r gofyniad newydd effeithio arno, ym mis Ebrill 2017. Gan nad oedd Rheol Sefydlog, dewisodd y Llywydd ddilyn gweithdrefn debyg i'r un ar gyfer datganiadau ar gymhwysedd deddfwriaethol a wneir yn unol â Rheol Sefydlog 26.4 pan gyflwynir Bil, h.y. y dylid gosod y datganiad gyda'r Swyddfa Gyflwyno. Cafodd y datganiad ei gynnwys fel dogfen ategol i gynnig Cyfnod 4 y Llywodraeth ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Dilynwyd yr un drefn ar gyfer pob Bil wedi hynny.
10. Felly, cynigir cyflwyno Rheol Sefydlog 26.50A newydd i fodloni'r gofyniad yn adran 111A(3) newydd y Ddeddf i'r Llywydd wneud datganiad o'r fath. Nid yw'r Ddeddf yn pennu sut y dylid gwneud y datganiad hwnnw, h.y. ar lafar ynteu yn ysgrifenedig, ac felly nid yw'n angenrheidiol i'r Rheolau Sefydlog ragnodi hyn yn benodol. Yr oll sydd angen ei wneud yw cydnabod bod yn rhaid bodloni'r gofyniad cyn gwneud cynnig Cyfnod 4.
Cofnodi pleidlais uwch-fwyafrif
11. Dywed adran 111A(4) o'r Ddeddf na chaniateir pasio Bil os bydd y Llywydd yn penderfynu bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, oni bai bod nifer Aelodau'r Cynulliad sy'n pleidleisio o'i blaid yn y Cyfnod terfynol o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm y seddau yn y Cynulliad. Nid yw hyn yn cyfeirio at ddwy ran o dair o'r rhai sy'n pleidleisio. Yn hytrach, mae'n golygu dwy ran o dair o seddau'r Cynulliad, h.y. 40 neu fwy ar hyn o bryd. Cynigir Rheol Sefydlog 26.50B newydd i gynnwys y gofyniad am bleidlais uwch-fwyafrif ar gyfer Bil o'r fath.
12. Pe bai cwestiwn yn codi, ar ôl pleidlais ar gynnig i basio Bil, ynglŷn â'r angen am uwch-fwyafrif yn y bleidlais honno, bydd yn bwysig cael cofnod a wnaeth y bleidlais ar y Bil gyrraedd y trothwy bod dwy ran o dair o holl Aelodau'r Cynulliad wedi pleidleisio o'i blaid. Felly, cynigir cyflwyno Rheol Sefydlog 26.50C newydd, i'w gwneud yn ofynnol cael pleidlais wedi'i chofnodi bob tro y cynhelir pleidlais Cyfnod 4 ar Filiau'r Cynulliad, gan ddatgymhwyso Rheol Sefydlog 12.36 sy'n caniatáu ar gyfer y posibilrwydd o basio Bil heb drafodaeth na phleidlais os nad oes yr un Aelod yn gwrthwynebu.
13. Mae'r Rheolau Sefydlog yn Senedd yr Alban, lle y cyflwynwyd darpariaethau union yr un fath gan Ddeddf yr Alban 2016, eisoes wedi'u diwygio i'w gwneud yn ofynnol cael pleidlais i basio pob Bil yng Nghyfnod 4. Er y disgwylir mai ychydig iawn o Filiau'r Cynulliad fyddai'n cyffwrdd â phwnc gwarchodedig, mae'r gofynion deddfwriaethol yn gymwys i bob Bil, ac felly byddai pleidlais wedi'i chofnodi yn amddiffyniad pwysig pe byddai unrhyw her ar ôl i'r Bil gael ei basio. Heb bleidlais wedi'i chofnodi, gallai her arwain at gyfeirio'r Bil at y Goruchaf Lys a chynnal Cyfnod Ailystyried. Ar y llaw arall, pe bai dros 40 o Aelodau wedi pleidleisio o blaid y Bil, gallai pleidlais wedi'i chofnodi ddangos ei fod wedi bodloni trothwy'r uwch-fwyafrif p'un bynnag.
Y Cyfnod Ailystyried
14. Ar hyn o bryd nid yw'r Rheolau Sefydlog ond yn darparu ar gyfer ailystyried Bil a gyfeiriwyd at y Goruchaf Lys ar sail cwestiwn ynglŷn â chymhwysedd (adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Cymru). Felly, cynigir bod y Rheolau Sefydlog ar gyfer y Cyfnod Ailystyried yn cael eu diwygio i gynnwys penderfyniad gan y Goruchaf Lys a yw Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig ai peidio. Byddai'r newid arfaethedig i Reol Sefydlog 26.53 yn caniatáu ar gyfer ailystyried yn achos Bil a basiwyd gan fwyafrif syml pan ddylai uwch-fwyafrif fod wedi bod yn ofynnol. Mae'r Rheolau Sefydlog newydd 26.56C - G yn darparu ar gyfer ailystyried Bil a wrthodwyd oherwydd na chafodd ei basio gan uwch-fwyafrif fel sy'n ofynnol, pan ganfyddir wedi hynny nad oedd angen uwch-fwyafrif ar ei gyfer. Ar hyn o bryd, nid yw'r Rheolau Sefydlog ond yn darparu ar gyfer Ailystyried Bil a basiwyd, ac nid Bil a wrthodwyd.
15. Cynigir hefyd rai diwygiadau i sicrhau bod y weithdrefn yn y Cyfnod Ailystyried yn cydymffurfio â'r gofynion newydd. Cynigir diwygiadau i Reol Sefydlog 26.56, a Rheol Sefydlog 26.56G newydd i'w gwneud yn ofynnol i'r Llywydd wneud datganiad arall yn nodi a yw'r Bil a Ailystyriwyd yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, cyn y gellir cynnal pleidlais. Cynigir diwygiadau hefyd i sicrhau y cynhelir pleidlais wedi'i chofnodi ar Fil sydd i'w gymeradwyo ar ôl cael ei ailystyried (Rheolau Sefydlog 26.56 a 26.56F).
Gwelliannau yn y Cyfnod Ailystyried
16. Mae'r cwestiwn hefyd yn codi a ddylai fod modd diwygio Bil sy'n cael ei ailystyried ar sail adran 111 (yr angen am uwch-fwyafrif), a pha feini prawf a ddylai fod yn gymwys i unrhyw welliannau o'r fath. Trafodwyd y mater hwn gan Bwyllgor Safonau, Gweithdrefnau a Phenodiadau Cyhoeddus Senedd yr Alban a'i dîm cyfreithiol, a chafwyd gohebiaeth rhwng Senedd yr Alban a Llywodraeth yr Alban. Penderfynwyd peidio â chaniatáu gwelliannau yn ystod y Cyfnod Ailystyried. Rhoddodd y Pwyllgor Busnes ystyriaeth i gyngor cyfreithiol manwl ar y mater hwn, ac yn enwedig ar ddehongliad cyfreithiol y darpariaethau yn y Ddeddf, gyda'r bwriad o benderfynu, ar sail yr holl wybodaeth, a ddylai'r Rheolau Sefydlog ganiatáu i Fil gael ei ddiwygio yn ystod y Cyfnod Ailystyried yn yr amgylchiadau hyn. Y casgliad o'r cyngor cyfreithiol oedd y gallai'r Cynulliad ddewis darparu yn y Rheolau Sefydlog ar gyfer cyflwyno gwelliannau i Fil yn ystod y Cyfnod Ailystyried. Ni fyddai ond yn briodol gwneud hynny i raddau cyfyngedig fel y darperir ar eu cyfer eisoes mewn perthynas ag ailystyried mewn amgylchiadau eraill.
17. Yn achos Bil a basiwyd ac sy'n cael ei ailystyried ar sail adran 111, cytunodd y Pwyllgor Busnes â'r cyngor cyfreithiol ac mae'n cynnig newidiadau i'r Rheolau Sefydlog a fydd yn caniatáu ar gyfer cyflwyno gwelliannau i Fil o'r fath, i'r graddau cyfyngedig y mae hyn eisoes yn bosibl o dan amgylchiadau eraill (gweler y Rheol Sefydlog 26.55 a gedwir).
18. Yn achos Bil a wrthodwyd oherwydd na chafodd ei basio gan yr uwch-fwyafrif gofynnol, ac y canfyddir wedi hynny nad oedd angen pleidlais uwch-fwyafrif arno, nid yw'r Bil ond yn cael ei ailystyried i'w gymeradwyo oherwydd y byddai fel arall wedi cael ei basio gan fwyafrif syml. Ni fyddai'n briodol cyflwyno gwelliant yn yr achos hwn, gan mai unig ddiben y Rheolau Sefydlog fydd caniatáu pleidlais arall ar y Bil ar ôl dyfarniad gan y Goruchaf Lys, a chan nad oes dim sydd angen ei 'gywiro' trwy welliannau. Felly mae Rheol Sefydlog 26.56E newydd yn nodi na chaniateir diwygio Bil sy'n cael ei ailystyried yn yr amgylchiadau hyn.
Biliau yn methu, yn cael eu gwrthod neu’n cael eu tynnu’n ôl
19. Cynigir diwygiad canlyniadol i Reol Sefydlog 26.76 fel nad yw'r rheol 6 mis, sy'n atal trafodion ychwanegol rhag cael eu cymryd ar Fil a wrthodwyd, yn gymwys i Fil sy'n cael ei wrthod ac yna'i ailystyried ar ôl cael ei gyfeirio o dan adran 111B(2) o'r Ddeddf. Byddai'r newid hwn yn golygu y gallai'r Cynulliad bleidleisio i basio Bil y mae'r Goruchaf Lys wedi dyfarnu nad oedd angen uwch-fwyafrif arno yn y lle cyntaf.
Camau i’w cymryd
20. Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i Reolau Sefydlog 26, 26A a 26B yn ffurfiol ar 10 Hydref 2017, a gwahoddir y Cynulliad i gymeradwyo'r cynigion a nodir yn Atodiad B.
Atodiad A
RHEOL SEFYDLOG 26 – Deddfau'r Cynulliad |
||
|
(O DDIWEDD Y CYFNOD ADRODD YMLAEN) |
|
26.46B |
Rhaid i unrhyw Femorandwm Esboniadol diwygiedig a gaiff ei baratoi o dan Reol Sefydlog 26.46A gael ei osod o leiaf bum niwrnod gwaith cyn dyddiad cyfarfod cyntaf y Cynulliad sy’n ystyried trafodion y Cyfnod Adrodd. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
|
Cyfnod 4: Y Cyfnod Terfynol |
|
26.47 |
Caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig i basio Bil, ac ni chaiff ei ystyried hyd nes bydd o leiaf bum niwrnod gwaith wedi mynd heibio ar ôl cwblhau trafodion Cyfnod 3, neu drafodion y Cyfnod Adrodd, os cawsant eu cynnal. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26.47A |
Rhaid cyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 26.47 o leiaf un diwrnod gwaith cyn y caiff ei drafod. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26.48 |
Yn ddarostyngedig i Reolau Sefydlog 26.50 a 26.50A, yn union ar ôl cwblhau trafodion Cyfnod 3, neu drafodion y Cyfnod Adrodd os y’u cynhaliwyd, caiff unrhyw Aelod, gyda chytundeb y Llywydd, gynnig heb hysbysiad bod y Bil yn cael ei basio. |
Diwygio'r Rheol Sefydlog Cynigiwyd diwygio'r Rheol Sefydlog hon i gynnwys y ddarpariaeth ar gyfer datganiad gan y Llywydd yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf. |
26.49 |
Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig y dylai Bil gael ei basio. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26.50 |
Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil yn cael ei basio oni bai bod testun y Bil ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26.50A |
Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil yn cael ei basio nes y bydd y Llywydd wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig. |
Rheol Sefydlog newydd Cynigir cyflwyno Rheol Sefydlog newydd i fodloni gofyniad adran 111A(3) newydd o'r Ddeddf bod yn rhaid i'r Llywydd, cyn Cyfnod Terfynol trafodion y Bil, wneud datganiad yn nodi a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig ai peidio. Pe byddai cynnig o'r fath yn cael ei wneud heb hysbysiad, byddai'n ofynnol i'r Llywydd wneud datganiad o'r fath ar lafar yn y Siambr. |
26.50B |
Pan fo'r Llywydd wedi gwneud datganiad bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, ni chaiff y Bil ei basio oni bai bod y nifer sy'n pleidleisio o'i blaid yn cyfateb i o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Cynulliad. |
Rheol Sefydlog newydd Dywed adran 111A(4) o'r Ddeddf na chaniateir pasio Bil os bydd y Llywydd yn penderfynu bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, oni bai bod nifer Aelodau'r Cynulliad sy'n pleidleisio o'i blaid yn y Cyfnod terfynol o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm y seddau yn y Cynulliad. Nid yw hyn yn cyfeirio at ddwy ran o dair o'r rhai sy'n pleidleisio. Yn hytrach, mae'n golygu dwy ran o dair o seddau'r Cynulliad, h.y. 40 neu fwy ar hyn o bryd. Cynigir newid y Rheolau Sefydlog felly, i'w gwneud yn ofynnol cael pleidlais uwch-fwyafrif ar gyfer Bil o'r fath. |
26.50C |
Rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynnig bod y Bil yn cael ei basio. |
Rheol Sefydlog newydd Pe bai cwestiwn yn codi, ar ôl pleidlais ar gynnig i basio Bil, ynglŷn â'r angen am uwch-fwyafrif yn y bleidlais ar y cynnig hwnnw, bydd yn bwysig cael cofnod a wnaeth y bleidlais ar y Bil gyrraedd y trothwy bod Aelodau sy'n cynrychioli dwy ran o dair o holl seddau'r Cynulliad wedi pleidleisio o'i blaid. Felly, cynigir diwygio'r weithdrefn, i'w gwneud yn ofynnol cael pleidlais wedi'i chofnodi bob tro y cynhelir pleidlais Cyfnod 4 ar Filiau'r Cynulliad, gan ddatgymhwyso Rheol Sefydlog 12.36 mewn perthynas â phasio Bil. Gellir nodi bod Rheolau Sefydlog yn Senedd yr Alban, lle mae darpariaethau union yr un fath ar bynciau gwarchodedig wedi'u cyflwyno gan Ddeddf yr Alban 2016, eisoes wedi'u diwygio i wneud pleidlais yn ofynnol ar gyfer pob Bil yng Nghyfnod 4. |
26.51 |
Ni chaniateir gwneud cynnig o dan Reol Sefydlog 12.31(ii) mewn unrhyw drafodion Cyfnod 4. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
|
Ailystyried Biliau a Basiwyd |
Cadw'r pennawd Os mai'r unig reswm dros ailystyried y Bil yw y credid bod angen uwch-fwyafrif, a bod y Goruchaf Lys, wedi hynny, yn dyfarnu nad oedd mo'i angen, ni fyddai angen diwygio'r Bil mewn unrhyw ffordd, na dim cyfiawnhad dros hynny. Yr oll fyddai angen fyddai iddo fynd ymlaen i gyfnod ailystyried lle y gellid pleidleisio eto i basio'r un Bil trwy fwyafrif syml. Pe na byddai wedi cael ei gyfeirio at y Goruchaf Lys, mae'n debyg y byddai Bil o'r fath wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol ac o bosibl wedi dod i rym eisoes, felly ni fyddai cyfiawnhad dros oedi am 6 mis cyn ei gymeradwyo yn dilyn dyfarniad. Felly, cynigir dwy weithdrefn ar gyfer Cyfnod Ailystyried isod, ar gyfer Bil a basiwyd, a Bil a wrthodwyd lle y canfuwyd nad oedd angen uwch-fwyafrif. |
26.52 |
Yn unol ag adran 113 o'r Ddeddf, ar ôl i'r Bil gael ei basio, caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai'r Cynulliad ailystyried y Bil, neu unrhyw ddarpariaeth ynddo: (i) os oes cwestiwn wedi’i gyfeirio at y Goruchaf Lys o dan adran 112 y Ddeddf; a (ii) os oes cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol gan Lys Ewrop (o fewn ystyr adran 113(1)(b) o'r Ddeddf) wedi'i wneud gan y Goruchaf Lys mewn cysylltiad â'r cyfeiriad hwnnw; a (iii) os nad yw'r naill gyfeiriad na'r llall wedi'i benderfynu neu wedi'i waredu fel arall. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26.52A |
Os derbynnir cynnig o dan Reol Sefydlog 26.52 gan y Cynulliad, rhaid i'r Clerc hysbysu'r Cwnsler Cyffredinol a'r Twrnai Cyffredinol am y ffaith honno. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26.52B |
Os bydd y Cynulliad yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26.52, bydd y Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl tynnu'r cyfeiriad a wnaed mewn perthynas â'r Bil o dan adran 112 yn ôl yn dilyn cais am dynnu'r cyfeiriad yn ôl o dan adran 113(2)b o'r Ddeddf. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26.53 |
Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai'r Cynulliad ailystyried y Bil
(i)
os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynglŷn
â chyfeiriad a wnaed mewn perthynas â'r Bil o dan adran
112 o'r Ddeddf na fyddai'r Bil neu unrhyw ddarpariaeth ynddo o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad;
(ii)
os gwneir gorchymyn mewn perthynas â'r Bil o
dan adran 114 o'r Ddeddf (iii) os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynglŷn â chyfeiriad a wnaed o dan adran 111B(2)b o'r Ddeddf mewn perthynas â Bil a basiwyd gan y Cynulliad, fod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.
|
Diwygio'r Rheol Sefydlog Cynigir diwygio'r Rheol Sefydlog hon i gynnwys penderfyniad gan y Goruchaf Lys fod Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig ymhlith y meini prawf ar gyfer ailystyried Bil. Byddai hyn yn caniatáu ar gyfer ailystyried yn achos Bil a basiwyd gan fwyafrif syml pan ddylai fod wedi'i basio gan uwch-fwyafrif. Gweler Rheol Sefydlog 26.56C ar gyfer Bil a wrthodwyd oherwydd na chafodd ei basio gan uwch-fwyafrif fel a oedd yn ofynnol, pan ganfyddir wedi hynny nad oedd angen uwch-fwyafrif. |
26.53A |
Os bydd y Cynulliad yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26.53, mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i'r cynnig hwnnw gael ei dderbyn gan y Cynulliad. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26.54 |
Mae Rheolau Sefydlog 26.30 i 26.34 a 26.36 i 26.44 yn gymwys i drafodion y Cyfnod Ailystyried. Dylid dehongli cyfeiriadau at “Cyfnod 3” a “Cyfnod 3 pellach” yn gyfeiriadau at “y Cyfnod Ailystyried” a “y Cyfnod Ailystyried pellach” yn unol â hynny. |
Cadw'r Rheol Sefydlog
|
26.55 |
Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil yn y Cyfnod Ailystyried oni bai bod y gwelliannau, yn ychwanegol at feini prawf Rheol Sefydlog 26.61, ac ym marn y Llywydd, wedi'u bwriadu dim ond i ddatrys y mater sy'n destun y canlynol: (i) y cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol; (ii) penderfyniad y Goruchaf Lys; neu (iii) y Gorchymyn o dan adran 114 o'r Ddeddf. |
Cadw'r Rheol Sefydlog
|
26.56 |
|
Diwygio'r Rheol Sefydlog. Cynigir newid y Rheol Sefydlog hon fel na ellir gwneud cynnig i basio unrhyw Fil (hyd yn oed un sydd wedi'i ddiwygio yn y Cyfnod Ailystyried) oni bai bod y Llywydd wedi gwneud datganiad yn nodi p'un a oes pwnc gwarchodedig dan sylw ai peidio (fel a nodir yn y Rheol Sefydlog 26.50A drafft uchod). Mae'r gofyniad i gynnal pleidlais wedi'i chofnodi yn y Cyfnod Ailystyried hefyd yn cael ei ailadrodd yma, fel ar gyfer Cyfnod 4. |
26.56A |
Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil a ailystyriwyd yn cael ei gymeradwyo nes y bydd y Llywydd wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig. |
Rheol Sefydlog newydd Cynigir cyflwyno Rheol Sefydlog newydd yma i fodloni gofyniad adran 111A(3) newydd o'r Ddeddf fod yn rhaid i'r Llywydd, cyn Cyfnod Terfynol trafodion Bil, wneud datganiad yn nodi a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig ai peidio. Felly byddai angen gwneud datganiad arall cyn y gellid cymeradwyo Bil a ailystyriwyd. Pe byddai cynnig o'r fath yn cael ei wneud heb hysbysiad, byddai'n ofynnol i'r Llywydd wneud datganiad o'r fath ar lafar yn y Siambr. |
26.56B |
Pan fo'r Llywydd wedi gwneud datganiad bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil ar ôl y cyfnod ailystyried, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, ni chaiff y Bil hwnnw ei gymeradwyo oni bai bod y nifer sy'n pleidleisio o'i blaid yn cyfateb i o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Cynulliad. |
Rheol Sefydlog newydd Cynigir ailadrodd y ddarpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i fwyafrif o ddwy ran o dair o seddau'r Cynulliad bleidleisio o blaid Bil, y tro hwn yn achos Bil sy'n cael ei gymeradwyo ar ôl cael ei ailystyried. Mae hyn yn adlewyrchu'r Rheol Sefydlog 26.50B newydd uchod ar gyfer Bil i'w basio i ddechrau yng Nghyfnod 4. |
|
Ailystyried Biliau a wrthodwyd |
Pennawd newydd |
26.56C |
Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig bod y Cynulliad yn ailystyried Bil os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynglŷn â chyfeiriad a wnaed o dan adran 111B(2)a o'r Ddeddf mewn perthynas â Bil a wrthodwyd gan y Cynulliad, nad oes unrhyw ddarpariaeth yn y Bil sy'n destun y cyfeiriad yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.
|
Rheol Sefydlog newydd Cynigir cynnwys darpariaeth newydd ar gyfer ailystyried Bil a wrthodwyd yn unol â Rheol Sefydlog 26.50B uchod, os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu wedi hynny, ar ôl i'r Bil gael ei gyfeirio ato, na ddylai pleidlais uwch-fwyafrif fod wedi bod yn ofynnol ar gyfer y Bil. |
26.56D |
Os bydd y Cynulliad yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26.56C, mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i'r cynnig hwnnw gael ei dderbyn gan y Cynulliad. |
Rheol Sefydlog newydd Fel yn achos y Cyfnod Ailystyried ar gyfer Biliau a basiwyd (Rheol Sefydlog 26.53A) cynigir y Rheol Sefydlog newydd hon er mwyn dangos pryd mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau. |
26.56E |
Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil a ailystyriwyd yn unol â Rheol Sefydlog 26.56C. |
Rheol Sefydlog newydd Cynigir na ddylid caniatáu cyflwyno gwelliannau yn y cyfnod hwn os mai'r unig reswm y mae Bil yn cael ei ailystyried i'w gymeradwyo yw y byddai fel arall wedi cael ei basio yn wreiddiol gan fwyafrif syml. Ni fyddai gwelliannau'n briodol pan mai unig ddiben y Rheolau Sefydlog hyn fydd caniatáu ar gyfer pleidleisio eto ar y Bil ar ôl dyfarniad gan y Goruchaf Lys, a phan nad oes dim sydd angen ei 'gywiro' trwy welliannau. |
26.56F |
Yn y Cyfnod Ailystyried yn unol â Rheol Sefydlog 26.56C, caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig i gymeradwyo'r Bil. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o'r fath a rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar y cynnig. |
Rheol Sefydlog newydd Cynigir y caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig, yn y ffordd arferol, i gymeradwyo'r Bil yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys nad yw'n ymwneud â phwnc gwarchodedig. Mae'r darpariaethau ar gyfer y bleidlais hon yr un fath ag ar gyfer cymeradwyo Bil sy'n cael ei Ailystyried ar ôl cael ei basio (gweler Rheol Sefydlog 26.56 uchod). |
26.56G |
Ni chaniateir gwneud cynnig o dan Reol Sefydlog 26.56F nes y bydd y Llywydd wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig. |
Rheol Sefydlog newydd Cynigir cynnwys y Rheol Sefydlog newydd hon ar gyfer y Cyfnod Ailystyried, gan adlewyrchu darpariaethau Rheol Sefydlog 26.50A uchod ar gyfer Datganiad y Llywydd a wneir cyn pleidleisio yng Nghyfnod 4. |
|
Biliau yn Methu, yn Cael eu Gwrthod neu’n Cael eu Tynnu’n ôl |
Cadw'r pennawd |
26.76 |
Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26.56C,
o |
Diwygio'r Rheol Sefydlog Cynigir diwygio'r Rheol Sefydlog hon fel nad yw'r rheol 6 mis ond yn gymwys yn amodol ar y ddarpariaeth ar gyfer Ailystyried Bil a wrthodwyd. Byddai'r newid hwn yn golygu y gallai'r Cynulliad bleidleisio i basio Bil y mae'r Goruchaf Lys wedi dyfarnu nad oedd angen uwch-fwyafrif arno yn y lle cyntaf, ac a fyddai fel arall wedi cael ei 'basio' yn y Cyfnod 4 gwreiddiol trwy fwyafrif syml. |
RHEOL SEFYDLOG 26A – Deddfau Preifat y Cynulliad |
||
|
(O'R CYFNOD TERFYNOL YMLAEN) |
|
|
Y Cyfnod Terfynol |
Cadw'r pennawd |
26A.102 |
Rhaid i Gyfnod Terfynol Bil Preifat gael ei gymryd gan y Cynulliad mewn cyfarfod llawn. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26A.103 |
Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26A.107, caiff unrhyw Aelod, heb fod yn gynharach na phum diwrnod gwaith ar ôl cwblhau Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad, neu Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor neu Ystyriaeth Fanwl Bellach y Cynulliad os cawsant eu cynnal, gyflwyno cynnig bod y Bil Preifat yn cael ei basio. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26A.104 |
Rhaid cyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.103 o leiaf un diwrnod gwaith cyn y caiff ei drafod. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26A.105 |
Yn ddarostyngedig i Reolau Sefydlog 26A.107 a 26A.107A, yn union ar ôl cwblhau Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad, neu Ystyriaeth Fanwl Bellach y Cynulliad os caiff ei chynnal, caiff unrhyw Aelod, gyda chytundeb y Llywydd, gynnig heb hysbysiad bod y Bil Preifat yn cael ei basio. |
Diwygio'r Rheol Sefydlog Cynigir diwygio'r Rheol Sefydlog hon i gynnwys y ddarpariaeth ar gyfer datganiad gan y Llywydd yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf. |
26A.106 |
Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig y dylai Bil Preifat gael ei basio. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26A.107 |
Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil Preifat yn cael ei basio oni bai bod testun y Bil Preifat ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26A.107A |
Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil Preifat yn cael ei basio nes y bydd y Llywydd wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig. |
Rheol Sefydlog newydd Cynigir cyflwyno Rheol Sefydlog newydd i fodloni gofyniad adran 111A(3) newydd o'r Ddeddf bod yn rhaid i'r Llywydd, cyn Cyfnod Terfynol trafodion Bil, wneud datganiad yn nodi a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil Preifat yn ymwneud â phwnc gwarchodedig ai peidio. Pe byddai cynnig o'r fath yn cael ei wneud heb hysbysiad, byddai'n ofynnol i'r Llywydd wneud datganiad o'r fath ar lafar yn y Siambr. |
26A.107B |
Pan fo'r Llywydd wedi gwneud datganiad bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, ni chaiff y Bil ei basio oni bai bod y nifer sy'n pleidleisio o'i blaid yn cyfateb i o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Cynulliad. |
Rheol Sefydlog newydd Dywed adran 111A(4) o'r Ddeddf na chaniateir pasio Bil os bydd y Llywydd yn penderfynu bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, oni bai bod nifer Aelodau'r Cynulliad sy'n pleidleisio o'i blaid yn y Cyfnod terfynol o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm y seddau yn y Cynulliad. Nid yw hyn yn cyfeirio at ddwy ran o dair o'r rhai sy'n pleidleisio. Yn hytrach, mae'n golygu dwy ran o dair o seddau'r Cynulliad, h.y. 40 neu fwy ar hyn o bryd. Cynigir newid y Rheolau Sefydlog felly, i'w gwneud yn ofynnol cael pleidlais uwch-fwyafrif ar gyfer Bil Preifat o'r fath. |
26A.107C |
Rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynnig bod Bil Preifat yn cael ei basio. |
Rheol Sefydlog newydd Pe bai cwestiwn yn codi, ar ôl pleidlais ar gynnig i basio Bil, ynglŷn â'r angen am uwch-fwyafrif yn y bleidlais ar y cynnig hwnnw, bydd yn bwysig cael cofnod a wnaeth y bleidlais ar y Bil gyrraedd y trothwy bod Aelodau sy'n cynrychioli dwy ran o dair o holl seddau'r Cynulliad wedi pleidleisio o'i blaid. Felly, cynigir diwygio'r weithdrefn, i'w gwneud yn ofynnol cael pleidlais wedi'i chofnodi bob tro y cynhelir pleidlais Cyfnod 4 ar Filiau'r Cynulliad, gan ddatgymhwyso Rheol Sefydlog 12.36 mewn perthynas â phasio Bil. |
26A.108 |
Ni chaniateir gwneud cynnig o dan Reol Sefydlog 12.31(ii) mewn unrhyw drafodion Cyfnod Terfynol. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
|
Ailystyried Biliau Preifat a Basiwyd |
Cadw'r pennawd |
26A.109 |
Yn unol ag adran 113 o'r Ddeddf, ar ôl i'r Bil Preifat gael ei basio, caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai'r Cynulliad ailystyried y Bil Preifat, neu unrhyw ddarpariaeth ynddo: (i) os oes cwestiwn ynglŷn â'r Bil Preifat wedi'i gyfeirio at y Goruchaf Lys o dan adran 112 o'r Ddeddf; a (ii) os oes cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol (o fewn ystyr adran 113(1)(b) o'r Ddeddf) wedi'i wneud gan y Goruchaf Lys mewn cysylltiad â'r cyfeiriad hwnnw; a (iii) os nad yw'r naill gyfeiriad na'r llall wedi'i benderfynu neu wedi'i waredu fel arall. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26A.109A |
Os derbynnir cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.109 gan y Cynulliad, rhaid i'r Clerc hysbysu'r Cwnsler Cyffredinol a'r Twrnai Cyffredinol am y ffaith honno. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26A.109B |
Os bydd y Cynulliad yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.109, bydd y Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl tynnu'r cyfeiriad a wnaed mewn perthynas â'r Bil o dan adran 112 yn ôl yn dilyn cais am dynnu'r cyfeiriad yn ôl o dan adran 113(2)b o'r Ddeddf. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26A.110 |
Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai'r Cynulliad ailystyried y Bil Preifat:
(i) os bydd y
Goruchaf Lys yn penderfynu ynghylch cyfeiriad a wneir mewn
perthynas â'r Bil o dan adran 112 o'r Ddeddf na fyddai'r Bil
Preifat neu unrhyw ddarpariaeth ynddo o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol y Cynulliad;
(ii) os gwneir gorchymyn
mewn perthynas â'r Bil Preifat o dan adran 114 o'r
Ddeddf (iii) os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynghylch cyfeiriad a wneir o dan adran 111B(2)b o'r Ddeddf mewn perthynas â Bil Preifat a basiwyd gan y Cynulliad, fod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig. |
Diwygio'r Rheol Sefydlog Cynigir diwygio'r Rheol Sefydlog hon i gynnwys penderfyniad gan y Goruchaf Lys fod Bil Preifat yn ymwneud â phwnc gwarchodedig ymhlith y meini prawf ar gyfer ailystyried Bil Preifat. Byddai hyn yn caniatáu ar gyfer ailystyried yn achos Bil Preifat a basiwyd gan fwyafrif syml pan ddylai fod wedi'i basio gan uwch-fwyafrif. Gweler y Rheol Sefydlog 26A.115C arfaethedig isod ar gyfer Bil a wrthodwyd oherwydd na chafodd ei basio gan uwch-fwyafrif fel a oedd yn ofynnol, pan ganfyddir wedi hynny nad oedd angen uwch-fwyafrif ar ei gyfer. |
26A.111 |
Os bydd y Cynulliad yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.110, mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i'r cynnig hwnnw gael ei dderbyn gan y Cynulliad. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26A.112 |
Mae Rheolau Sefydlog 26A.82 i 26A.93 a 26A.100 i 26A.101 yn gymwys i drafodion y Cyfnod Ailystyried. Dylid dehongli cyfeiriadau at "Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad" ac “Ystyriaeth Fanwl Bellach y Cynulliad” yn gyfeiriadau at “y Cyfnod Ailystyried” a “y Cyfnod Ailystyried pellach” yn unol â hynny. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26A.113 |
Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil Preifat yn y Cyfnod Ailystyried oni bai bod y gwelliannau, yn ychwanegol at feini prawf Rheol Sefydlog 26A.120, ac ym marn y Llywydd, wedi'u bwriadu dim ond i ddatrys y mater sy'n destun y canlynol: (i) y cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol; (ii) penderfyniad y Goruchaf Lys; neu (iii) y Gorchymyn o dan adran 114 o'r Ddeddf. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26A.114 |
Oni bai bod y Cynulliad wedi penderfynu, drwy gynnig gan y Pwyllgor Busnes, ym mha drefn y mae'r gwelliannau i gael eu gwaredu, rhaid eu gwaredu yn y drefn y mae'r darpariaethau y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil Preifat. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26A.115 |
|
Diwygio'r Rheol Sefydlog Cynigir newid y Rheol Sefydlog hon fel na ellir gwneud Cynnig i basio unrhyw Fil Preifat (hyd yn oed un sydd wedi'i ddiwygio yn y Cyfnod Ailystyried) oni bai bod y Llywydd wedi gwneud datganiad yn nodi p'un a oes pwnc gwarchodedig dan sylw ai peidio (fel a nodir yn y Rheol Sefydlog 26A.107A drafft uchod ar gyfer y bleidlais Cyfnod 4 gychwynnol). Mae'r gofyniad i gynnal pleidlais wedi'i chofnodi yn y Cyfnod Ailystyried hefyd yn cael ei ailadrodd yma, fel ar gyfer Cyfnod 4. |
26A.115A |
Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil Preifat a ailystyriwyd yn cael ei gymeradwyo nes y bydd y Llywydd wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig. |
Rheol Sefydlog newydd Cynigir cyflwyno Rheol Sefydlog newydd yma i fodloni gofyniad adran 111A(3) newydd o'r Ddeddf bod yn rhaid i'r Llywydd, cyn Cyfnod Terfynol trafodion Bil, wneud datganiad yn nodi a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig ai peidio. Felly byddai angen gwneud datganiad arall cyn y gellid cymeradwyo'r Bil Preifat a ailystyriwyd. Pe byddai cynnig o'r fath yn cael ei wneud heb hysbysiad, byddai'n ofynnol i'r Llywydd wneud datganiad o'r fath ar lafar yn y Siambr. |
26A.115B |
Pan fo'r Llywydd wedi gwneud datganiad bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil Preifat ar ôl y cyfnod ailystyried, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, ni chaiff y Bil Preifat hwnnw ei gymeradwyo oni bai bod y nifer sy'n pleidleisio o'i blaid yn cyfateb i o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Cynulliad. |
Rheol Sefydlog newydd Cynigir ailadrodd y ddarpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i fwyafrif o ddwy ran o dair o seddau'r Cynulliad bleidleisio o blaid Bil, y tro hwn yn achos Bil Preifat sy'n cael ei gymeradwyo ar ôl cael ei ailystyried. Mae hyn yn adlewyrchu'r Rheol Sefydlog 26A.107B newydd uchod ar gyfer Bil Preifat i'w basio i ddechrau yng Nghyfnod 4. |
|
Ailystyried Biliau Preifat a Wrthodwyd |
Pennawd newydd |
26A.115C |
Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig bod y Cynulliad yn ailystyried y Bil Preifat os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynghylch cyfeiriad a wneir o dan adran 111B(2)a o'r Ddeddf mewn perthynas â Bil Preifat a wrthodwyd gan y Cynulliad, nad oes unrhyw ddarpariaeth yn y Bil Preifat sy'n destun y cyfeiriad yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.
|
Rheol Sefydlog newydd Cynigir cynnwys darpariaeth newydd ar gyfer ailystyried Bil Preifat a wrthodwyd yn unol â Rheol Sefydlog 26A.107B uchod, os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu wedi hynny, ar ôl i'r Bil gael ei gyfeirio ato, na ddylai pleidlais uwch-fwyafrif fod wedi bod yn ofynnol ar gyfer y Bil. |
26A.115D |
Os bydd y Cynulliad yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.115C, mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i'r cynnig hwnnw gael ei dderbyn gan y Cynulliad. |
Rheol Sefydlog newydd Fel yn achos y Cyfnod Ailystyried ar gyfer Biliau a basiwyd, cynigir y Rheol Sefydlog newydd hon er mwyn dangos pryd mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar gyfer Bil Preifat a wrthodwyd yn flaenorol. |
26A.115E |
Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil Preifat a ailystyriwyd yn unol â Rheol Sefydlog 26A.115C. |
Rheol Sefydlog newydd Cynigir na ddylid caniatáu cyflwyno gwelliannau yn y cyfnod hwn os mai'r unig reswm y mae Bil Preifat yn cael ei ailystyried i'w gymeradwyo yw y byddai fel arall wedi cael ei basio yn wreiddiol gan fwyafrif syml. Ni fyddai gwelliannau'n briodol pan mai unig ddiben y Rheolau Sefydlog hyn fydd caniatáu ar gyfer pleidleisio eto ar y Bil Preifat ar ôl dyfarniad gan y Goruchaf Lys, a phan nad oes dim sydd angen ei 'gywiro' trwy welliannau. |
26A.115F |
Yn y Cyfnod Ailystyried yn unol â Rheol Sefydlog 26.115C, caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig i gymeradwyo'r Bil Preifat. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o'r fath a rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar y cynnig. |
Rheol Sefydlog newydd Cynigir y caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig, yn y ffordd arferol, i gymeradwyo'r Bil Preifat yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys nad yw'n ymwneud â phwnc gwarchodedig. Mae'r darpariaethau ar gyfer y bleidlais hon yr un fath ag ar gyfer cymeradwyo Bil sy'n cael ei ailystyried ar ôl cael ei basio (gweler Rheol Sefydlog 26.115 uchod). |
26A.115G |
Ni chaniateir gwneud cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.115F nes y bydd y Llywydd wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil Preifat, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig. |
Rheol Sefydlog newydd Cynigir cynnwys y Rheol Sefydlog newydd hon ar gyfer y Cyfnod Ailystyried, gan adlewyrchu darpariaethau Rheol Sefydlog 26A.107A uchod ar gyfer Datganiad y Llywydd a wneir cyn pleidleisio yng Nghyfnod 4. |
|
Biliau Preifat yn Methu, yn Cael eu Gwrthod neu’n Cael eu Tynnu’n ôl |
Cadw'r pennawd |
26A.142 |
Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog
26A.115C, |
Diwygio'r Rheol Sefydlog Cynigir diwygio'r Rheol Sefydlog hon fel nad yw'r rheol 6 mis ond yn gymwys yn amodol ar y ddarpariaeth ar gyfer Ailystyried Bil Preifat a wrthodwyd. Byddai'r newid hwn yn golygu y gallai'r Cynulliad bleidleisio i basio Bil Preifat y mae'r Goruchaf Lys wedi dyfarnu nad oedd angen uwch-fwyafrif arno yn y lle cyntaf, ac a fyddai fel arall wedi cael ei 'basio' yn y Cyfnod 4 gwreiddiol trwy fwyafrif syml. |
RHEOL SEFYDLOG 26B - Deddfau Hybrid y Cynulliad |
||
|
Y Cyfnod Terfynol
|
Cadw'r pennawd hwn |
26B.101 |
Rhaid i Gyfnod Terfynol Bil Hybrid gael ei gymryd gan y Cynulliad mewn cyfarfod llawn. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26B.102 |
Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26B.106, caiff unrhyw Aelod, heb fod yn gynharach na phum diwrnod gwaith ar ôl cwblhau Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad, neu Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor neu Ystyriaeth Fanwl Bellach y Cynulliad os cawsant eu cynnal, gyflwyno cynnig bod y Bil Hybrid yn cael ei basio. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26B.103 |
Rhaid cyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 26B.102 o leiaf un diwrnod gwaith cyn y caiff ei drafod. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26B.104 |
Yn ddarostyngedig i Reolau Sefydlog 26B.106 a 26B.106A, yn union ar ôl cwblhau Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad, neu Ystyriaeth Fanwl Bellach y Cynulliad os caiff ei chynnal, caiff unrhyw Aelod, gyda chytundeb y Llywydd, gynnig heb hysbysiad fod y Bil Hybrid yn cael ei basio. |
Diwygio'r Rheol Sefydlog Cynigiwyd diwygio'r Rheol Sefydlog hon i gynnwys y ddarpariaeth ar gyfer datganiad gan y Llywydd yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf. |
26B.105 |
Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig y dylai Bil Hybrid gael ei basio. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26B.106 |
Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil Hybrid yn cael ei basio oni bai bod testun y Bil Hybrid ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26B.106A |
Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil Hybrid yn cael ei basio nes y bydd y Llywydd wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig. |
Rheol Sefydlog newydd Cynigir cyflwyno Rheol Sefydlog newydd i fodloni gofyniad adran 111A(3) newydd o'r Ddeddf bod yn rhaid i'r Llywydd, cyn Cyfnod Terfynol trafodion Bil, wneud datganiad yn nodi a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil Hybrid yn ymwneud â phwnc gwarchodedig ai peidio. Pe byddai cynnig o'r fath yn cael ei wneud heb hysbysiad, byddai'n ofynnol i'r Llywydd wneud datganiad o'r fath ar lafar yn y Siambr. |
26B.106B |
Pan fo'r Llywydd wedi gwneud datganiad bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, ni chaiff y Bil ei basio oni bai bod y nifer sy'n pleidleisio o'i blaid yn cyfateb i o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Cynulliad. |
Rheol Sefydlog newydd Dywed adran 111A(4) o'r Ddeddf na chaniateir pasio Bil os bydd y Llywydd yn penderfynu bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, oni bai bod nifer Aelodau'r Cynulliad sy'n pleidleisio o'i blaid yn y Cyfnod terfynol o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm y seddau yn y Cynulliad. Nid yw hyn yn cyfeirio at ddwy ran o dair o'r rhai sy'n pleidleisio. Yn hytrach, mae'n golygu dwy ran o dair o seddau'r Cynulliad, h.y. 40 neu fwy ar hyn o bryd. Cynigir newid y Rheolau Sefydlog felly, i'w gwneud yn ofynnol cael pleidlais uwch-fwyafrif ar gyfer Bil o'r fath. |
26B.106C |
Rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynnig bod Bil Hybrid yn cael ei basio. |
Rheol Sefydlog newydd Cynigir diwygio'r weithdrefn, i'w gwneud yn ofynnol cael pleidlais wedi'i chofnodi bob tro y cynhelir pleidlais Cyfnod 4 ar Filiau'r Cynulliad, gan ddatgymhwyso Rheol Sefydlog 12.36 mewn perthynas â phasio Bil. |
26B.107 |
Ni chaniateir gwneud cynnig o dan Reol Sefydlog 12.31(ii) mewn unrhyw drafodion Cyfnod Terfynol. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
|
Ailystyried Biliau Hybrid a Basiwyd |
Cadw'r pennawd |
26B.108 |
Yn unol ag adran 113 o’r Ddeddf, ar ôl i'r Bil Hybrid gael ei basio, caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai'r Cynulliad ailystyried y Bil Hybrid, neu unrhyw ddarpariaeth ynddo: (i) os oes cwestiwn ynglŷn â'r Bil Hybrid wedi'i gyfeirio at y Goruchaf Lys o dan adran 112 o'r Ddeddf; (ii) os oes cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol (o fewn ystyr adran 113(1)(b) o'r Ddeddf) wedi'i wneud gan y Goruchaf Lys mewn cysylltiad â'r cyfeiriad hwnnw; a (iii) os nad yw'r naill gyfeiriad na'r llall wedi'i benderfynu neu wedi'i waredu fel arall. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26B.109 |
Os derbynnir cynnig o dan Reol Sefydlog 26B.108 gan y Cynulliad, rhaid i'r Clerc hysbysu'r Cwnsler Cyffredinol a'r Twrnai Cyffredinol am y ffaith honno. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26B.110 |
Os bydd y Cynulliad yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26B.108, bydd y Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl tynnu'r cyfeiriad a wnaed mewn perthynas â'r Bil o dan adran 112 yn ôl yn dilyn cais am dynnu'r cyfeiriad yn ôl o dan adran 113(2)b o'r Ddeddf. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26B.111 |
Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai'r Cynulliad ailystyried y Bil Hybrid:
(i) os bydd y Goruchaf
Lys yn penderfynu ynghylch cyfeiriad a wneir mewn perthynas
â'r Bil o dan adran 112 o'r Ddeddf na fyddai'r Bil Hybrid neu
unrhyw ddarpariaeth ynddo o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y
Cynulliad;
(ii) os gwneir gorchymyn
mewn perthynas â'r Bil Hybrid o dan adran 114 o'r
Ddeddf (iii) os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynghylch cyfeiriad a wneir o dan adran 111B(2)b o'r Ddeddf mewn perthynas â Bil Hybrid a basiwyd gan y Cynulliad, bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig. |
Diwygio'r Rheol Sefydlog Cynigir diwygio'r Rheol Sefydlog hon i gynnwys penderfyniad gan y Goruchaf Lys bod Bil Hybrid yn ymwneud â phwnc gwarchodedig ymhlith y meini prawf ar gyfer ailystyried Bil Hybrid. Byddai hyn yn caniatáu ar gyfer ailystyried yn achos Bil Hybrid a basiwyd gan fwyafrif syml pan ddylai fod wedi'i basio gan uwch-fwyafrif. Gweler y Rheol Sefydlog 26B.117C arfaethedig isod ar gyfer Bil a wrthodwyd oherwydd na chafodd ei basio gan uwch-fwyafrif fel a oedd yn ofynnol, pan ganfyddir wedi hynny nad oedd angen uwch-fwyafrif. |
26B.112 |
Os bydd y Cynulliad yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26B.111, mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i'r cynnig hwnnw gael ei dderbyn gan y Cynulliad. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26B.113 |
Rhaid i 15 diwrnod gwaith o leiaf fynd heibio rhwng dechrau'r Cyfnod Ailystyried a dyddiad cyfarfod cyntaf y Cynulliad sy'n ystyried trafodion y Cyfnod Ailystyried. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26B.114 |
Rhaid i'r trafodion yn y Cyfnod Ailystyried gael eu hystyried gan y Cynulliad mewn cyfarfod llawn. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26B.115 |
Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil Hybrid yn y Cyfnod Ailystyried oni bai bod y gwelliannau, yn ychwanegol at feini prawf Rheol Sefydlog 26B.122, ac ym marn y Llywydd, wedi'u bwriadu dim ond i ddatrys y mater sy'n destun y canlynol: (i) y cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol; (ii) penderfyniad y Goruchaf Lys; neu (iii) y Gorchymyn o dan adran 114 o'r Ddeddf. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26B.116 |
Oni bai bod y Cynulliad wedi penderfynu, drwy gynnig gan y Pwyllgor Busnes, ym mha drefn y mae'r gwelliannau i gael eu gwaredu, rhaid eu gwaredu yn y drefn y mae'r darpariaethau y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil Hybrid. |
Cadw'r Rheol Sefydlog |
26B.117 |
|
Diwygio'r Rheol Sefydlog Cynigir newid y Rheol Sefydlog hon fel na ellir gwneud Cynnig i basio unrhyw Fil Hybrid (hyd yn oed un sydd wedi'i ddiwygio yn y Cyfnod Ailystyried) oni bai bod y Llywydd wedi gwneud datganiad yn nodi p'un a oes pwnc gwarchodedig dan sylw ai peidio (fel a nodir yn y Rheol Sefydlog 26B.106A drafft uchod ar gyfer y bleidlais Cyfnod 4 gychwynnol). Mae'r gofyniad i gynnal pleidlais wedi'i chofnodi yn y Cyfnod Ailystyried hefyd yn cael ei ailadrodd yma, fel ar gyfer Cyfnod 4. |
26B.117A |
Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil Hybrid a ailystyriwyd yn cael ei gymeradwyo nes y bydd y Llywydd wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig. |
Rheol Sefydlog newydd Cynigir cyflwyno Rheol Sefydlog newydd yma i fodloni gofyniad adran 111A(3) newydd o'r Ddeddf bod yn rhaid i'r Llywydd, cyn Cyfnod Terfynol trafodion Bil, wneud datganiad yn nodi a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig ai peidio. Felly byddai angen gwneud datganiad arall cyn y gellid cymeradwyo'r Bil Hybrid a ailystyriwyd. Pe byddai cynnig o'r fath yn cael ei wneud heb hysbysiad, byddai'n ofynnol i'r Llywydd wneud datganiad o'r fath ar lafar yn y Siambr. |
26B.117B |
Pan fo'r Llywydd wedi gwneud datganiad bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil Hybrid ar ôl y cyfnod ailystyried, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, ni chaiff y Bil Hybrid hwnnw ei gymeradwyo oni bai bod y nifer sy'n pleidleisio o'i blaid yn cyfateb i o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Cynulliad. |
Rheol Sefydlog newydd Cynigir ailadrodd y ddarpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i fwyafrif o ddwy ran o dair o seddau'r Cynulliad bleidleisio o blaid Bil, y tro hwn yn achos Bil Hybrid sy'n cael ei gymeradwyo ar ôl cael ei ailystyried. Mae hyn yn adlewyrchu'r Rheol Sefydlog 26B.106B uchod ar gyfer Bil Hybrid i'w basio i ddechrau yng Nghyfnod 4. |
|
Ailystyried Biliau Hybrid a wrthodwyd |
Pennawd newydd |
26B.117C |
Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig bod y Cynulliad yn ailystyried y Bil Hybrid os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynghylch cyfeiriad a wneir o dan adran 111B(2)a o'r Ddeddf mewn perthynas â Bil Hybrid a wrthodwyd gan y Cynulliad, nad oes unrhyw ddarpariaeth yn y Bil Hybrid sy'n destun y cyfeiriad yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.
|
Rheol Sefydlog newydd Cynigir cynnwys darpariaeth newydd ar gyfer ailystyried Bil Hybrid a wrthodwyd yn unol â Rheol Sefydlog 26B.106B uchod, os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu wedi hynny, ar ôl i'r Bil gael ei gyfeirio ato, na ddylai pleidlais uwch-fwyafrif fod wedi bod yn ofynnol ar gyfer y Bil. |
26B.117D |
Os bydd y Cynulliad yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26B.117C, mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i'r cynnig hwnnw gael ei dderbyn gan y Cynulliad. |
Rheol Sefydlog newydd Fel yn achos y Cyfnod Ailystyried ar gyfer Biliau a basiwyd, cynigir y Rheol Sefydlog newydd hon er mwyn dangos pryd mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar gyfer Bil Hybrid a wrthodwyd yn flaenorol. |
26B.117E |
Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil Hybrid a ailystyriwyd yn unol â Rheol Sefydlog 26B.117C. |
Rheol Sefydlog newydd Cynigir na ddylid caniatáu cyflwyno gwelliannau yn y cyfnod hwn os mai'r unig reswm y mae Bil Hybrid yn cael ei ailystyried i'w gymeradwyo yw y byddai fel arall wedi cael ei basio yn wreiddiol gan fwyafrif syml. Ni fyddai gwelliannau'n briodol pan mai unig ddiben y Rheolau Sefydlog hyn fydd caniatáu ar gyfer pleidleisio eto ar y Bil Hybrid ar ôl dyfarniad gan y Goruchaf Lys, a phan nad oes dim sydd angen ei 'gywiro' trwy welliannau. |
26B.117F |
Yn y Cyfnod Ailystyried yn unol â Rheol Sefydlog 26B.117C, caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig i gymeradwyo'r Bil Hybrid. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o'r fath a rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar y cynnig. |
Rheol Sefydlog newydd Cynigir y caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig, yn y ffordd arferol, i gymeradwyo'r Bil Hybrid yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys nad yw'n ymwneud â phwnc gwarchodedig. Mae'r darpariaethau ar gyfer y bleidlais hon yr un fath ag ar gyfer cymeradwyo Bil sy'n cael ei ailystyried ar ôl cael ei basio (gweler Rheol Sefydlog 26B.117 uchod). |
26B.117G |
Ni chaniateir gwneud cynnig o dan Reol Sefydlog 26B.117F nes y bydd y Llywydd wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil Hybrid, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig. |
Rheol Sefydlog newydd Cynigir cynnwys y Rheol Sefydlog newydd hon ar gyfer y Cyfnod Ailystyried, gan adlewyrchu darpariaethau Rheol Sefydlog 26B.106A uchod ar gyfer Datganiad y Llywydd a wneir cyn pleidleisio yng Nghyfnod 4. |
|
Biliau Hybrid yn Methu, yn Cael eu Gwrthod neu’n Cael eu Tynnu’n ôl |
Cadw'r pennawd |
26B.137 |
Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog
26B.117C, |
Diwygio'r Rheol Sefydlog Cynigir diwygio'r Rheol Sefydlog hon fel nad yw'r rheol 6 mis ond yn gymwys yn amodol ar y ddarpariaeth ar gyfer Ailystyried Bil Hybrid a wrthodwyd. Byddai'r newid hwn yn golygu y gallai'r Cynulliad bleidleisio i basio Bil Hybrid y mae'r Goruchaf Lys wedi dyfarnu nad oedd angen uwch-fwyafrif arno yn y lle cyntaf, ac a fyddai fel arall wedi cael ei 'basio' yn y Cyfnod 4 gwreiddiol trwy fwyafrif syml. |
Atodiad B
26. RHEOL SEFYDLOG 26 – Deddfau'r Cynulliad
26.46B Rhaid i unrhyw Femorandwm Esboniadol diwygiedig a gaiff ei baratoi o dan Reol Sefydlog 26.46A gael ei osod o leiaf bum niwrnod gwaith cyn dyddiad cyfarfod cyntaf y Cynulliad sy’n ystyried trafodion y Cyfnod Adrodd.
Cyfnod 4: Y Cyfnod Terfynol
26.47 Caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig i basio Bil, ac ni chaiff ei ystyried hyd nes bydd o leiaf bum niwrnod gwaith wedi mynd heibio ar ôl cwblhau trafodion Cyfnod 3, neu drafodion y Cyfnod Adrodd, os cawsant eu cynnal.
26.47A Rhaid cyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 26.47 o leiaf un diwrnod gwaith cyn y caiff ei drafod.
26.48 Yn ddarostyngedig i Reolau Sefydlog 26.50 a 26.50A, yn union ar ôl cwblhau trafodion Cyfnod 3, neu drafodion y Cyfnod Adrodd os y’u cynhaliwyd, caiff unrhyw Aelod, gyda chytundeb y Llywydd, gynnig heb hysbysiad bod y Bil yn cael ei basio.
26.49 Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig y dylai Bil gael ei basio.
26.50 Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil yn cael ei basio oni bai bod testun y Bil ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
26.50A Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil yn cael ei basio nes y bydd y Llywydd wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.
26.50B Pan fo'r Llywydd wedi gwneud datganiad bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, ni chaiff y Bil ei basio oni bai bod y nifer sy'n pleidleisio o'i blaid yn cyfateb i o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Cynulliad.
26.50C Rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynnig bod Bil yn cael ei basio.
26.51 Ni chaniateir gwneud cynnig o dan Reol Sefydlog 12.31(ii) mewn unrhyw drafodion Cyfnod 4.
Ailystyried Biliau a Basiwyd
26.52 Yn unol ag adran 113 o'r Ddeddf, ar ôl i'r Bil gael ei basio, caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai'r Cynulliad ailystyried y Bil, neu unrhyw ddarpariaeth ynddo:
(i) os oes cwestiwn wedi’i gyfeirio at y Goruchaf Lys o dan adran 112 y Ddeddf; a
(ii) os oes cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol gan Lys Ewrop (o fewn ystyr adran 113(1)(b) o'r Ddeddf) wedi'i wneud gan y Goruchaf Lys mewn cysylltiad â'r cyfeiriad hwnnw; a
(iii) os nad yw'r naill gyfeiriad na'r llall wedi'i benderfynu neu wedi'i waredu fel arall.
26.52A Os derbynnir cynnig o dan Reol Sefydlog 26.52 gan y Cynulliad, rhaid i'r Clerc hysbysu'r Cwnsler Cyffredinol a'r Twrnai Cyffredinol am y ffaith honno.
26.52B Os bydd y Cynulliad yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26.52, bydd y Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl tynnu'r cyfeiriad a wnaed mewn perthynas â'r Bil o dan adran 112 yn ôl yn dilyn cais am dynnu'r cyfeiriad yn ôl o dan adran 113(2)b o'r Ddeddf.
26.53 Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai'r Cynulliad ailystyried y Bil:
(i) os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynglŷn â chyfeiriad a wnaed mewn perthynas â'r Bil o dan adran 112 o'r Ddeddf na fyddai'r Bil neu unrhyw ddarpariaeth ynddo o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad;
(ii) os gwneir gorchymyn mewn perthynas â'r Bil o dan adran 114 o'r Ddeddf; neu
(iii) os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynglŷn â chyfeiriad a wnaed o dan adran 111B(2)b o'r Ddeddf mewn perthynas â Bil a basiwyd gan y Cynulliad, fod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.
26.53A Os bydd y Cynulliad yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26.53, mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i'r cynnig hwnnw gael ei dderbyn gan y Cynulliad.
26.54 Mae Rheolau Sefydlog 26.30 i 26.34 a 26.36 i 26.44 yn gymwys i drafodion y Cyfnod Ailystyried. Dylid dehongli cyfeiriadau at “Cyfnod 3” a “Cyfnod 3 pellach” yn gyfeiriadau at “y Cyfnod Ailystyried” a “y Cyfnod Ailystyried pellach” yn unol â hynny.
26.55 Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil yn y Cyfnod Ailystyried oni bai bod y gwelliannau, yn ychwanegol at feini prawf Rheol Sefydlog 26.61, ac ym marn y Llywydd, wedi'u bwriadu dim ond i ddatrys y mater sy'n destun y canlynol:
(i) y cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol;
(ii) penderfyniad y Goruchaf Lys; neu
(iii) y Gorchymyn o dan adran 114 o'r Ddeddf.
26.56 Ar ôl gwaredu'r holl welliannau yn nhrafodion y Cyfnod Ailystyried, ac yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26.56A, caiff unrhyw Aelod gynnig heb hysbysiad fod y Cynulliad yn cymeradwyo Bil a ailystyriwyd. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o'r fath a rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar y cynnig.
26.56A Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil a ailystyriwyd yn cael ei gymeradwyo nes y bydd y Llywydd wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.
26.56B Pan fo'r Llywydd wedi gwneud datganiad bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil ar ôl y cyfnod ailystyried, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, ni chaiff y Bil hwnnw ei gymeradwyo oni bai bod y nifer sy'n pleidleisio o'i blaid yn cyfateb i o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Cynulliad.
Ailystyried Biliau a wrthodwyd
26.56C Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig bod y Cynulliad yn ailystyried Bil os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynglŷn â chyfeiriad a wnaed o dan adran 111B(2)a o'r Ddeddf mewn perthynas â Bil a wrthodwyd gan y Cynulliad, nad oes unrhyw ddarpariaeth yn y Bil sy'n destun y cyfeiriad yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.
26.56D Os bydd y Cynulliad yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26.56C, mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i'r cynnig hwnnw gael ei dderbyn gan y Cynulliad.
26.56E Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil a ailystyriwyd yn unol â Rheol Sefydlog 26.56C.
26.56F Yn y Cyfnod Ailystyried yn unol â Rheol Sefydlog 26.56C, caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig i gymeradwyo'r Bil. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o'r fath a rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar y cynnig.
26.56G Ni chaniateir gwneud cynnig o dan Reol Sefydlog 26.56F nes y bydd y Llywydd wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.
Biliau yn Methu, yn Cael eu Gwrthod neu’n Cael eu Tynnu’n ôl
26.76 Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26.56C, os bydd Bil yn methu neu’n cael ei wrthod gan y Cynulliad, rhaid peidio â chymryd dim trafodion pellach ar y Bil hwnnw a rhaid peidio â chyflwyno Bil sydd, ym marn y Llywydd, yn yr un telerau neu delerau tebyg, yn yr un Cynulliad o fewn y cyfnod o chwe mis ar ôl y dyddiad y methodd y Bil neu y cafodd ei wrthod.
26A. RHEOL SEFYDLOG 26A – Deddfau Preifat y Cynulliad
Y Cyfnod Terfynol
26A.102 Rhaid i Gyfnod Terfynol Bil Preifat gael ei gymryd gan y Cynulliad mewn cyfarfod llawn.
26A.103 Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26A.107, caiff unrhyw Aelod, heb fod yn gynharach na phum diwrnod gwaith ar ôl cwblhau Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad, neu Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor neu Ystyriaeth Fanwl Bellach y Cynulliad os cawsant eu cynnal, gyflwyno cynnig bod y Bil Preifat yn cael ei basio.
26A.104 Rhaid cyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.103 o leiaf un diwrnod gwaith cyn y caiff ei drafod.
26A.105 Yn ddarostyngedig i Reolau Sefydlog 26A.107 a 26A.107A, yn union ar ôl cwblhau Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad, neu Ystyriaeth Fanwl Bellach y Cynulliad os caiff ei chynnal, caiff unrhyw Aelod, gyda chytundeb y Llywydd, gynnig heb hysbysiad bod y Bil Preifat yn cael ei basio.
26A.106 Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig y dylai Bil Preifat gael ei basio.
26A.107 Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil Preifat yn cael ei basio oni bai bod testun y Bil Preifat ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
26A.107A Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil Preifat yn cael ei basio nes y bydd y Llywydd wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.
26A.107B Pan fo'r Llywydd wedi gwneud datganiad bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, ni chaiff y Bil ei basio oni bai bod y nifer sy'n pleidleisio o'i blaid yn cyfateb i o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Cynulliad.
26A.107C Rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynnig bod Bil Preifat yn cael ei basio.
26A.108 Ni chaniateir gwneud cynnig o dan Reol Sefydlog 12.31(ii) mewn unrhyw drafodion Cyfnod Terfynol.
Ailystyried Biliau Preifat a Basiwyd
26A.109 Yn unol ag adran 113 o'r Ddeddf, ar ôl i'r Bil Preifat gael ei basio, caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai'r Cynulliad ailystyried y Bil Preifat, neu unrhyw ddarpariaeth ynddo:
(i) os oes cwestiwn ynglŷn â'r Bil Preifat wedi'i gyfeirio at y Goruchaf Lys o dan adran 112 o'r Ddeddf; a
(ii) os oes cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol (o fewn ystyr adran 113(1)(b) o'r Ddeddf) wedi'i wneud gan y Goruchaf Lys mewn cysylltiad â'r cyfeiriad hwnnw; a
(iii) os nad yw'r naill gyfeiriad na'r llall wedi'i benderfynu neu wedi'i waredu fel arall.
26A.109A Os derbynnir cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.109 gan y Cynulliad, rhaid i'r Clerc hysbysu'r Cwnsler Cyffredinol a'r Twrnai Cyffredinol am y ffaith honno.
26A.109B Os bydd y Cynulliad yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.109, bydd y Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl tynnu'r cyfeiriad a wnaed mewn perthynas â'r Bil o dan adran 112 yn ôl yn dilyn cais am dynnu'r cyfeiriad yn ôl o dan adran 113(2)b o'r Ddeddf.
26A.110 Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai'r Cynulliad ailystyried y Bil Preifat:
(i) os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynghylch cyfeiriad a wneir mewn perthynas â'r Bil o dan adran 112 o'r Ddeddf na fyddai'r Bil Preifat neu unrhyw ddarpariaeth ynddo o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad;
(ii) os gwneir gorchymyn mewn perthynas â'r Bil Preifat o dan adran 114 o'r Ddeddf; neu
(iii) os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynghylch cyfeiriad a wneir o dan adran 111B(2)b o'r Ddeddf mewn perthynas â Bil Preifat a basiwyd gan y Cynulliad, fod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.
26A.111 Os bydd y Cynulliad yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.110, mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i'r cynnig hwnnw gael ei dderbyn gan y Cynulliad.
26A.112 Mae Rheolau Sefydlog 26A.82 i 26A.93 a 26A.100 i 26A.101 yn gymwys i drafodion y Cyfnod Ailystyried. Dylid dehongli cyfeiriadau at "Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad" ac “Ystyriaeth Fanwl Bellach y Cynulliad” yn gyfeiriadau at “y Cyfnod Ailystyried” a “y Cyfnod Ailystyried pellach” yn unol â hynny.
26A.113 Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil Preifat yn y Cyfnod Ailystyried oni bai bod y gwelliannau, yn ychwanegol at feini prawf Rheol Sefydlog 26A.120, ac ym marn y Llywydd, wedi'u bwriadu dim ond i ddatrys y mater sy'n destun y canlynol:
(i) y cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol;
(ii) penderfyniad y Goruchaf Lys; neu
(iii) y Gorchymyn o dan adran 114 o'r Ddeddf.
26A.114 Oni bai bod y Cynulliad wedi penderfynu, drwy gynnig gan y Pwyllgor Busnes, ym mha drefn y mae'r gwelliannau i gael eu gwaredu, rhaid eu gwaredu yn y drefn y mae'r darpariaethau y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil Preifat.
26A.115 Ar ôl i'r holl welliannau gael eu gwaredu yn nhrafodion y Cyfnod Ailystyried, ac yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26A.115A, caiff unrhyw Aelod gynnig heb hysbysiad fod y Cynulliad yn cymeradwyo Bil Preifat a ailystyriwyd. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o'r fath a rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar y cynnig.
26A.115A Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil Preifat a ailystyriwyd yn cael ei gymeradwyo nes y bydd y Llywydd wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.
26A.115B Pan fo'r Llywydd wedi gwneud datganiad bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil Preifat ar ôl y cyfnod ailystyried, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, ni chaiff y Bil Preifat hwnnw ei gymeradwyo oni bai bod y nifer sy'n pleidleisio o'i blaid yn cyfateb i o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Cynulliad.
Ailystyried Biliau Preifat a Wrthodwyd
26A.115C Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig bod y Cynulliad yn ailystyried y Bil Preifat os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynghylch cyfeiriad a wneir o dan adran 111B(2)a o'r Ddeddf mewn perthynas â Bil Preifat a wrthodwyd gan y Cynulliad, nad oes unrhyw ddarpariaeth yn y Bil Preifat sy'n destun y cyfeiriad yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.
26A.115D Os bydd y Cynulliad yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.115C, mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i'r cynnig hwnnw gael ei dderbyn gan y Cynulliad.
26A.115E Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil Preifat a ailystyriwyd yn unol â Rheol Sefydlog 26A.115C.
26A.115F Yn y Cyfnod Ailystyried yn unol â Rheol Sefydlog 26.115C, caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig i gymeradwyo'r Bil Preifat. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o'r fath a rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar y cynnig.
26A.115G Ni chaniateir gwneud cynnig o dan Reol Sefydlog 26A.115F nes y bydd y Llywydd wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil Preifat, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.
Biliau Preifat yn Methu, yn Cael eu Gwrthod neu’n Cael eu Tynnu’n ôl
26A.142 Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26A.115C, os bydd Bil Preifat yn methu neu’n cael ei wrthod gan y Cynulliad, rhaid peidio â chymryd dim trafodion pellach ar y Bil Preifat hwnnw a rhaid peidio â chyflwyno Bil Preifat sydd, ym marn y Llywydd, yn yr un telerau neu delerau tebyg, yn yr un Cynulliad o fewn y cyfnod o chwe mis ar ôl y dyddiad y methodd y Bil Preifat neu y cafodd ei wrthod.
26B. RHEOL SEFYDLOG 26B - Deddfau Hybrid y Cynulliad
Y Cyfnod Terfynol
26B.101 Rhaid i Gyfnod Terfynol Bil Hybrid gael ei gymryd gan y Cynulliad mewn cyfarfod llawn.
26B.102 Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26B.106, caiff unrhyw Aelod, heb fod yn gynharach na phum diwrnod gwaith ar ôl cwblhau Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad, neu Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor neu Ystyriaeth Fanwl Bellach y Cynulliad os cawsant eu cynnal, gyflwyno cynnig bod y Bil Hybrid yn cael ei basio.
26B.103 Rhaid cyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 26B.102 o leiaf un diwrnod gwaith cyn y caiff ei drafod.
26B.104 Yn ddarostyngedig i Reolau Sefydlog 26B.106 a 26B.106A, yn union ar ôl cwblhau Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad, neu Ystyriaeth Fanwl Bellach y Cynulliad os caiff ei chynnal, caiff unrhyw Aelod, gyda chytundeb y Llywydd, gynnig heb hysbysiad fod y Bil Hybrid yn cael ei basio.
26B.105 Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig bod Bil Hybrid yn cael ei basio.
26B.106 Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil Hybrid yn cael ei basio oni bai bod testun y Bil Hybrid ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
26B.106A Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil Hybrid yn cael ei basio nes y bydd y Llywydd wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.
26B.106B Pan fo'r Llywydd wedi gwneud datganiad bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, ni chaiff y Bil ei basio oni bai bod y nifer sy'n pleidleisio o'i blaid yn cyfateb i o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Cynulliad.
26B.106C Rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynnig bod Bil Hybrid yn cael ei basio.
26B.107 Ni chaniateir gwneud cynnig o dan Reol Sefydlog 12.31(ii) mewn unrhyw drafodion Cyfnod Terfynol.
Ailystyried Biliau Hybrid a Basiwyd
26B.108 Yn unol ag adran 113 o’r Ddeddf, ar ôl i'r Bil Hybrid gael ei basio, caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai'r Cynulliad ailystyried y Bil Hybrid, neu unrhyw ddarpariaeth ynddo:
(i) os oes cwestiwn ynglŷn â'r Bil Hybrid wedi'i gyfeirio at y Goruchaf Lys o dan adran 112 o'r Ddeddf;
(ii) os oes cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol (o fewn ystyr adran 113(1)(b) o'r Ddeddf) wedi'i wneud gan y Goruchaf Lys mewn cysylltiad â'r cyfeiriad hwnnw; a
(iii) os nad yw'r naill gyfeiriad na'r llall wedi'i benderfynu neu wedi'i waredu fel arall.
26B.109 Os derbynnir cynnig o dan Reol Sefydlog 26B.108 gan y Cynulliad, rhaid i'r Clerc hysbysu'r Cwnsler Cyffredinol a'r Twrnai Cyffredinol am y ffaith honno.
26B.110 Os bydd y Cynulliad yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26B.108, bydd y Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl tynnu'r cyfeiriad a wnaed mewn perthynas â'r Bil o dan adran 112 yn ôl yn dilyn cais am dynnu'r cyfeiriad yn ôl o dan adran 113(2)b o'r Ddeddf.
26B.111 Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai'r Cynulliad ailystyried y Bil Hybrid:
(i) os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynghylch cyfeiriad a wneir mewn perthynas â'r Bil o dan adran 112 o'r Ddeddf na fyddai'r Bil Hybrid neu unrhyw ddarpariaeth ynddo o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad;
(ii) os gwneir gorchymyn mewn perthynas â'r Bil Hybrid o dan adran 114 o'r Ddeddf; neu
(iii) os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynghylch cyfeiriad a wneir o dan adran 111B(2)b o'r Ddeddf mewn perthynas â Bil Hybrid a basiwyd gan y Cynulliad, bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.
26B.112 Os bydd y Cynulliad yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26B.111, mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i'r cynnig hwnnw gael ei dderbyn gan y Cynulliad.
26B.113 Rhaid i 15 diwrnod gwaith o leiaf fynd heibio rhwng dechrau'r Cyfnod Ailystyried a dyddiad cyfarfod cyntaf y Cynulliad sy'n ystyried trafodion y Cyfnod Ailystyried.
26B.114 Rhaid i'r trafodion yn y Cyfnod Ailystyried gael eu hystyried gan y Cynulliad mewn cyfarfod llawn.
26B.115 Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil Hybrid yn y Cyfnod Ailystyried oni bai bod y gwelliannau, yn ychwanegol at feini prawf Rheol Sefydlog 26B.122, ac ym marn y Llywydd, wedi'u bwriadu dim ond i ddatrys y mater sy'n destun y canlynol:
(i) y cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol;
(ii) penderfyniad y Goruchaf Lys; neu
(iii) y Gorchymyn o dan adran 114 o'r Ddeddf.
26B.116 Oni bai bod y Cynulliad wedi penderfynu, drwy gynnig gan y Pwyllgor Busnes, ym mha drefn y mae'r gwelliannau i gael eu gwaredu, rhaid eu gwaredu yn y drefn y mae'r darpariaethau y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil Hybrid.
26B.117 Ar ôl gwaredu'r holl welliannau yn nhrafodion y Cyfnod Ailystyried, ac yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26B.117B, caiff unrhyw Aelod gynnig heb hysbysiad fod y Cynulliad yn cymeradwyo Bil Hybrid a ailystyriwyd. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o'r fath a rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar y cynnig.
26B.117A Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil Hybrid a ailystyriwyd yn cael ei gymeradwyo nes y bydd y Llywydd wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.
26B.117B Pan fo'r Llywydd wedi gwneud datganiad bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil Hybrid ar ôl y cyfnod ailystyried, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, ni chaiff y Bil Hybrid hwnnw ei gymeradwyo oni bai bod y nifer sy'n pleidleisio o'i blaid yn cyfateb i o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Cynulliad.
Ailystyried Biliau Hybrid a wrthodwyd
26B.117C Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig bod y Cynulliad yn ailystyried y Bil Hybrid os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynghylch cyfeiriad a wneir o dan adran 111B(2)a o'r Ddeddf mewn perthynas â Bil Hybrid a wrthodwyd gan y Cynulliad, nad oes unrhyw ddarpariaeth yn y Bil Hybrid sy'n destun y cyfeiriad yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.
26B.117D Os bydd y Cynulliad yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26B.117C, mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i'r cynnig hwnnw gael ei dderbyn gan y Cynulliad.
26B.117E Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil Hybrid a ailystyriwyd yn unol â Rheol Sefydlog 26B.117C.
26B.117F Yn y Cyfnod Ailystyried yn unol â Rheol Sefydlog 26B.117C, caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig i gymeradwyo'r Bil Hybrid. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o'r fath a rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar y cynnig.
26B.117G Ni chaniateir gwneud cynnig o dan Reol Sefydlog 26B.117F nes y bydd y Llywydd wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil Hybrid, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.
Biliau Hybrid yn Methu, yn Cael eu Gwrthod neu’n Cael eu Tynnu’n ôl
26B.137 Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26B.117C, os bydd Bil Hybrid yn methu neu’n cael ei wrthod gan y Cynulliad, rhaid peidio â chymryd dim trafodion pellach ar y Bil Hybrid hwnnw a rhaid peidio â chyflwyno Bil Hybrid sydd, ym marn y Llywydd, yn yr un telerau neu delerau tebyg, yn yr un Cynulliad o fewn y cyfnod o chwe mis ar ôl y dyddiad y methodd y Bil Hybrid neu y cafodd ei wrthod.